Dewch i weld yr hyn mae Blwyddyn 5 a 6 wedi bod yn astudio'n ddiweddar.
Tymor y Gwanwyn 2009
Yn ystod y tymor, rydym wedi bod wrthi'n brysur yn creu pypedau yn y gwersi Technoleg. Roedd angen ysgrifennu sgriptiau ar gyfer sioe bypedau yn gyntaf, gan geisio cynnwys neges foesol. Y cam nesaf oedd cynllunio a chreu pypedau i gyd-fynd efo cymeriadau'r sioeau. Cafodd y plant hwyl yn dewis defnyddiau addas a phenderfynu ar y math o byped oeddynt am greu (llaw, bys, llinyn a.y.b.). Bu rhai'n gwnio tra i eraill beintio a gludo. Dyma luniau o rai o'r pypedau:
During the term, we have been busy making puppets in the Technology lessons. We wrote scripts and performed a puppet show to the rest of the class. We enjoyed creating a wide variety of puppets using different materials and methods. Here are some pictures:



Rydym hefyd wedi bod yn astudio ardal Abertawe yn y gwersi Daearyddiaeth. Rydym wedi bod yn gwneud gwaith mapio ac wedi bod yn crwydro'r strydoedd cyfagos i gael gwell darlun o'r amgylchedd. Bum yn defnyddio 'Google Maps' er mwyn astudio awyrlun o'r dref a gwnaethom greu taflenni gwybodaeth ar gyfer twristiaid yn nodi holl nodweddion ac atyniadau da'r ddinas. Dyma arddangosfeydd dosbarth Miss. Jones a Mr. Jones.
We have also been studying Swansea in the Geography lessons. We have been doing some map work of the local area, taking particular notice of the environment. We created some brochures for tourists, drawing their attention to the variety of activities offered in the city. Here are our class displays.

Rydym wedi bod yn astudio gwaith yr arlunydd Josef Herman yn y gwersi Celf. Cawsom y cyfle i ddefnyddio siarcol i ailgreu rhai o'i luniau enwog o lowyr wrth eu gwaith. Dyma un o'r campweithiau.
We have been studying the work of Josef Herman in the Art lessons. We used charcoal to replicate some of his work. Here is an example.
Tymor yr Hydref 2008
Bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ar daith i Bwll Mawr ym Mlaenafon yn gynt yn y tymor i ddysgu mwy am byllau glo yn ystod Oes Fictoria. Dyma thema'r gwersi Hanes eleni ac roedd cael profiadau byw o fod o dan y ddaear yn wych. Cafodd pob un y cyfle i wisgo helmed a gwregus ddiogelwch er mwyn teithio i lawr yn y lifft i grombil y pwll. Er i un neu ddau deimlo'n nerfus i ddechrau, roedd hi'n amlwg iawn fod y plant wedi mwynhau'n fawr. Gwelwyd y traciau haearn, y gloch, y tramiau glo, y stablau, y drysau awyr iach a'r twneli tywyll. Ar ol dychwelyd i'r wyneb, cafwyd cinio blasus yn ffreutur y safle. Yna, crwydrodd pob un o gwmpas yr amgueddfa yn sylwi ar y ffyrdd y mae gweithio o dan y ddaear wedi newid dros y canrifoedd. Bu pawb yn edrych ar ffilmiau, arddangosfeydd, ffotograffiau ac arteffactau amrywiol, cyn mynd ar daith arall, i mewn i'r mynydd y tro hwn, i edrych ar yr holl offer gaiff eu defnyddio i gloddio am yr aur du! Ynghanol swn y ffrwydriadau ffug, clywyd chwerthin a sgwrsio cynhyrfus. Cafwyd cyfle cyflym i alw i mewn yn y siop cyn teithio adref yn y bws yn ol i'r ysgol. Diwrnod arbennig.
Pupils from years 5 a 6 went to Big Pit earlier in the term. The aim was to learn more about the industry, especially during Victorian times. In the morning, the children experienced life underground and wore special equipment. After lunch, there was time to roam the museum and look at films, artefacts, photographs and displays. They also went on a journey into the mountain! Before the trip back to school, they had the opportunity to visit the shop. Everyone enjoyed their day out.