Dewch i weld yr hyn mae Blwyddyn 1 a 2 wedi bod yn brysur yn gwneud yn ddiweddar.

Tymor yr Haf 2009

Thema: Teithio

Dewch ar daith o gwmpas y byd gyda ni! Y tymor yma, byddwn yn teithio'r byd ar ein carped hud! Byddwn yn dysgu am nifer o wledydd gwahanol.

Edrychwn ymlaen at weithdy sain gan XL wales ar y 24ain o Ebrill a dysgu am sut y mae sain yn teithio hefyd.

Byddwn yn teithio yn ol i'r gorffennol hefyd, ac yn cymharu'r daith o Abertawe i'w Mwmbwls ddoe ac heddiw.

Tymor cyffrous dros ben!

Summer Term 2009

Theme: Travel

Join us this term on a journey around the world on our magic carpet! We will learn about many different countries.

XL Wales will be visiting us on the 24th April to present a workshop on sound and we will also be learning how sound travels.

We will journey into the past to compare the journey from Swansea to the Mumbles in the past and today.

We look forward to a very exciting term!

 

Tymor y Gwanwyn 2009

Dathlu Wythnos Wyddoniaeth a Thechnoleg

-Mawrth 6-13 2009

Rydyn ni gyd wedi mwynhau bod yn wyddonwyr yr wythnos hon!

Bob dydd, buom yn cynnal arbrofion gwahanol ac yn cael llawer o hwyl. Un o'r uchafbwyntiau oedd creu llosgfynydd!

Dyma ychydig o luniau o'r hyn a fu'n digwydd yn ystod yr wythnos.

 

 

 

Celebrating National Science and Engineering Week

- March 6 -13 2009

 

We have all enjoyed being little scientists this week!

Throughout the week we took part in various fun experiments. One of the highlights was creating a volcano!

Above, you can see a few pictures of what happened during the week.

 

BWYD! BWYD! BWYD!

Thema yr adran y tymor yma yw bwyd. Rydyn wedi bod yn brysur yn paratoi corneli chwarae rôl yn ein dosbarthiadau.

Cewch gynllunio brechdan flasus yn nosbarth Bl. 2 yng nghornel "Brechdanau Blasus Brynymor".

 

Neu, beth am bryd o fwyd Tseiniaidd ym Mlwyddyn Un?  Galwch draw i "Tseina Tseina" i gael gweld!

Ym Mlwyddyn 1/2 cewch frechdan flasus yng Ngornel Brechdanau Bryn y Môr!

Galwch draw yn fuan!

Rydyn ni hefyd wedi bod yn astudio newid deunyddiau yng Ngwyddoniaeth. Rydyn wedi arbrofi gyda siocled, cwyr a'r eira wrth gwrs!

Dyma lun ohonom yn ymchwilio efo siocled.

Y tymor yma hefyd byddwn yn astudio o ble y mae'n bwyd yn dod. Byddwn yn astudio siopau'r ardal ac yna'n ymweld â Fferm Alltyfyrddin  ar Chwefror y 6ed i ddarganfod mwy. Edrychwn ymlaen!

 

Tymor yr Hydref 2008

Thema'r Tymor: Cartrefi

Digwyddiadau'r Tymor

Mae'r tymor yma unwaith eto yn un cyffrous dros ben! Fel rhan o thema'r tymor mae'r tri dosbarth wedi sefydlu asiantaethau gwerthu tai yn ein dosbarthiadau. Cofiwch alw draw os ydych eisiau prynu neu werthu eich cartref!

Byddwn hefyd yn ymweld ag amgueddfa San Ffagan ar Hydref y 1af i astudio cartrefi'r gorffennol.

Mwy o newyddion a lluniau i ddilyn yn fuan!

Autumn Term 2008

Theme: Homes

Term's Events

Once again this term is a very exciting one! We have created estate agencies in our classrooms this term. Remember to call in if you wish to sell or buy a new house!

We will also be visiting St Fagan's museum in Cardiff on October the 1st to learn about how homes and houses have changed over the years.

More news and pictures to follow shortly!