Dewch i ddysgu am ein hymrech i gyrraedd statws Ysgol Iach.
Here about our efforts to reach a Healthy School status.
Hybu Ysgol Iach
Rydym hyd yn hyn wedi derbyn cam 1, 2 a 3 o fenter Ysgolion Iach Abertawe ac rydym yn anelu at dderbyn cam 4 dros y 2 flynedd nesaf.
Targed 2009 - 2010 
Y bwriad yw i ddatblygu ysgol gynaliadwy, gan ganolbwyntio ar y 7 maes priodol sef:
· Arbed egni - diffodd goleuadau'r dosbarth, troi'r cyfrifiaduron, byrddau gwyn i ffwrdd yn ystod amser chwarae/cinio
· Arbed dwr - troi tapiau dwr i ffwrdd yn rheolaidd
· Lleihau gwastraff - ail ddefnyddio bocsys/cardfwrdd… ayb fel rhan o'm gwaith Celf
· Cynnal bywyd iachus - stondin ffrwythau/ poteli dwr yn y dosbarth
· Monitro sbwriel - bin ail gylchu ym mhob dosbarth, clwb amgylchedd yn monitro lefel y sbwriel yn yr ysgol
· Dinasyddiaeth fyd eang - defnydd o adnoddau fasnach deg amrywiol
· Teithio - annog cerdded i'r ysgol yn hytrach na theithio mewn car
Gweler ein hysbysfwrdd yn yr ysgol am ragor o fanylion!