Dewch i weld yr hyn mae'r Blynyddoedd Cynnar wedi bod yn dysgu amdano.

Tymor y Gwanwyn 2009  

Ar ddechau'r tymor bu Dosbarth y Meithrin i fwyty Castellamare. Pwrpas yr ymweliad oedd i gael profiad o fynd i fwyty/caffi. Cafodd y plant lawer o hwyl yn archebu bwyd ac yna talu amdano. Hoffwn ddiolch i staff Castellamare am y croeso cynnes a'r bwyd blasus!

Agorwyd Caffi Sali Mali ar ôl dychwelyd i'r dosbarth. Dathlodd y plant Ddiwrnod Santes Dwynwen yno. Roedd Pryd y Dydd, sef brechdan siâp calon a diod am £1 yn boblogaidd ac yn rhesymol iawn. Dyna oedd fargen!

Mae ymweliadau'r Dosbarth Derbyn i'r parc eisioes wedi'i sefydlu erbyn hyn. Braf yw gweld y plant a'r staff yn gwisgo'u hesgidiau glaw a'u gwisgoedd diddos gyda chymaint o frwdfrydedd, beth bynnag yw'r tywydd! Diolch yn fawr i'r rhieni sy'n ymroi o'u hamser i gynorthwyo'r staff ar yr ymweliadau yma.

Spring Term

At the beginning of term the Nursery Class made a visit to Castellamare. The purpose of the visit was to experience a café/restaurant environment. The children had lots of fun ordering and paying for their food. We would like to thank Castellamare for their warm welcome and delicious food!

After returning to school Sali Mali's Café was opened. The children celebrated St. Dwynwen's Day in the café. The Daily Special of a heart shaped sandwich and drink for £1 was not only popular, but also reasonable. What a bargain!

By now the Reception Class's visits to the park are well established.  It's a real pleasure to watch the children and staff, dress in their wellies and waterproofs with such enthusiasm, whatever the weather! Thank you to the parents that give of their time to accompany the staff on these visits.